Choose a track to play
Mae 'na ddawnsio ar y byrddau, mae 'na gwffio ar y stryd
Mae'r gyfraith drwy y ffenast, a'r cyfrynga'i gyd yn fud
Mae'r banciau wedi'i bordio, a'r Eglwys yn ei dagra'
A'r plant i gyd yn smocio weed efo'i neiniau ac ei teidiau
Yng 'nghanol yr holl firi, daw'r Maer i ganu cloch
I ddatgan fod y dre wedi cael gwarad ar y moch
Mae'r athrawon a'r disgyblion yn cyddio yn y cloddiau
A'r Ysgol Sul yn gwerthu speed, Prozac a Viagra
A mae pawb am y gora'
Mai'n Sodom a........mai'n Sodom a Gomorrah
Ma' nhw'n llosgi y llyfrgelloedd tra bo'r staff yn sniffio glud
Yn sgrechian ar y byddar, a rhoi megaffons i'r mud
Yn cydio yn eu beiblau, daw gôr o Seiri rhyddion
Yn canu clodydd meinciau cefn, sy'n llawn o hwrs a lladron
A rhywle'n ganol hyn i gyd, daw fflach o ysbrydoliaeth
'Sa cadw cofnod o hyn oll, o gymorth i ddynoliaeth
Ond mae'r Bbc ag Es Ffor Si 'di methu prynu'r hawliau
Ma'n streamio'n fyw ar pay per view am dri o'r gloch y bora'
A mae pawb am y gora'
Mai'n Sodom a........mai'n Sodom a Gomorrah
Ag ydio'i gyd yn dod lawr i hyn?
Ryw dderbyn wysg ein tinau ein bod ni'n cynrychioli dim
Ag os taw'n ffawd ydi môr o dan,
Wel canw'n "cest la vie" a dawnsio yn y fflam
A mae pawb am y gora'
Mai'n Sodom a........mai'n Sodom a Gomorrah