Choose a track to play
Ffarwél i ddociau Lerpwl, ffarwél i'm ffrindiau hael
Ffarwél i Ynys Mona, sy'n anodd iawn ei chael
Ffarwél i dre Biwmares, a'r merched ieuanc llon
Rwy'n mynd nawr o Lerpwl i nofio dros y don
O dewch Mari, i nofio ar y llyn
Mae'r awel wedi codi, i lanw'r lliain gwyn
Am y cynta' lawr i'r Parrog i weld y Seventy-Four
Mae'i bows hi ar y castell a'i starn hi ar y môr
Ffarwél i draethau Penfro, a'r merched ieuanc llon
Rwy'n mynd nawr heb oedi i nofio ar y don
O dewch Mari, i forio ar y llyn
Mae'r awel wedi codi, i lanw'r lliain gwyn
I lanw'r lliain gwyn, i lanw'r lliain gwyn
Mae'r awel wedi codi, i lanw'r lliain gwyn
I lanw'r lliain gwyn