Elige una pista para reproducir
Pan fyddo'r ystorom
Yn bygwth gwae uwch dy ben
A therfysg diwedd dydd
Sydd yn rhwygo erwau'r nen
Pan fyddo'r cysgodion
Yn taenu ias dros y tir
A mantell ofnau'r nos
Sydd yn gaddug blin o gur
Yma fe gei ysbaid
Noddfa i'th enaid
Cei yma orffwys
Yn hafan gobaith hyd y wawr
Pan fyddo dy lwybr
Mor faith a thithau'n llesgáu
A chopa'r bryn ymhell
Gorwel nad yw'n agosáu
Pan fyddo dy ysbryd
Ar fin diffygio'n llwyr
A baich unigedd byd
Sydd yn drech ym min yr hwyr
Yma fe gei ysbaid
Noddfa i'th enaid
Cei yma orffwys
Yn hafan gobaith hyd y wawr
I'r sawl sy'n myned drwy ei ddôr
Cynhaliaeth gref a ddaw
Ffydd, gobaith a chariad Iôr
Yw'r heulwen wedi'r glaw
Yma fe gei ysbaid
Noddfa i'th enaid
Cei yma orffwys
Yn hafan gobaith hyd y wawr
Yma fe gei ysbaid
Noddfa i'th enaid
Cei yma orffwys
Yn hafan gobaith hyd y wawr
Yn hafan gobaith hyd y wawr