Elige una pista para reproducir
Dwi'n byw lle mae'r sbwriel yn hel
A llwch yn gorffwys ar y ffenestri
Dwi'n bod, rhwng pysgod a llygod
Yn chwilio am rhywbeth wnaeth ddiflannu.
Awn i gerdded ger yr afon rhyw dro
Er ei bod hi'n anodd a gwahanol
Ers o'n i a ti'n dod fan hyn i feddwi
Mae cymaint di newid
Falla mod i'n drysu rhwng hanes a stori
Pwy a ŵyr, mae'n anodd gwneud synnwyr
A'r dŵr bron a llygru'n llwyr
Awn i gerdded ger yr afon rhyw dro
Er ei bod hi'n anodd a gwahanol
Ers o'n i a ti'n dod fan hyn i feddwi
Mae cymaint di newid
Brysia draw
(Brysia draw a gawn ni gymryd ein hamser)
Brysia draw
(Brysia draw a gawn ni gymryd ein hamser)
(Brysia draw a gawn ni)
(Brysia draw a gawn ni)
Awn i gerdded ger yr afon rhyw dro
Er ei bod hi'n anodd a gwahanol
Ers o'n i a ti'n dod fan hyn i feddwi
Mae cymaint di newid