Elige una pista para reproducir
Mae'r ddaear a'r byd yn eiddo i mi
Mae'n rhy werthfawr i'w rhoi i ffwrdd
Mae hi gyda ni i gadw
Felly gadewch hi'n iawn
Y werin ydw i
A fi ydy'ch ysbryd
Ysbryd y werin 'dw i
Mae'r ddaear yn glasu a'r coed sydd yn tyfu
A gwyrddion yw'r gerddi mae'r llwyni mor llon
A heirdd yw'r eginau a'r dail ar y dolau
A blodau'r perllanau pur llawnion
Os bu yn ddiweddar wedd ddu ar y ddaear
Cydganodd yr adar yn gerddgar i gyd
Gweld coedydd yn deilio a wnâi iddynt byncio
Cydseinio drwy'n hoywfro draw'n hyfryd
Mae'r ddaear fawr ffrwythlon a'i thrysor yn ddigon
I borthi'i thrigolion yn dirion bob dydd
Pe byddem ni ddynion mewn cyflwr heddychlon
Yn caru'n un galon ein gilydd