Elige una pista para reproducir
A gloisoch chi'r drysa?
Mae bois y cwrseila
Yn siwr o ddod yma
Yn siwr o ddod yma
Yn siwr o ddod yma
i ganu.
Wel, dyma ni'n dwad
gyfeillion diniwad
I ofyn am gennad
I ofyn am gennad
I ofyn am gennad
i ganu.
Mae nhw ar y beili
Clywch arnyn nhw'n gweiddi
Dewch ferched, mwn dian i
Dewch ferched, mwn dian i
Dewch ferched, mwn dian i
i gwato.
Mae'r Fari Lwyd yma
Llawn sêr a rhibanna
Mae'n werth i rhoi gola
Mae'n werth i rhoi gola
Mae'n werth i rhoi gola
i'w gwelad.
O! Tynnwch y bollta,
Agorwch y drysa
I fois y cwrseila
I fois y cwrseila
I fois y cwrseila
Rhowch groeso.
Y bollta a dynnwn,
Y drysa agorwn
A'r Fari groesaw-wn
A'r Fari groesaw-wn
A'r Fari groesaw-wn
i'n gwyla.