Dwedwch fawrion o wybodaeth
O ba beth y gwnaethpwyd hiraeth
A pha ddefnydd a roed ynddo
Na ddarfyddo wrth ei wisgo?
Derfydd aur a derfydd arian
Derfydd melfed, derfydd sidan
Derfydd pob dilledyn helaeth
Eto er hyn, ni dderfydd hiraeth
Hiraeth mawr a hiraeth creulon
Hiraeth sydd yn torri 'nghalon
Pan fwyf dryma'r nos yn cysgu
Fe ddaw hiraeth ac yn deffry
Hiraeth, hiraeth cilia cilia
Paid â phwyso mor drwm arna'
Nesa' tipyn at yr erchwyn
Gad i mi gael cysgu gronyn