Выберите трек для воспроизведения
Yr eos a'r glân hedydd
Ac adar mân y mynydd
A ewch chi'n gennad at liw'r haf
Sy'n glaf o glefyd newydd
'Does gen i ddim anrhegion
Na jewels drud i'w danfon
I ddwyn i'ch cof yr hwn a'ch câr
Ond pâr o fenyg gwynion
Yr adar mân fe aethant
I'w siwrnai bell hedasant
Ac yno ar gyfer gwely Gwen
Hwy ar y pren ganasant
Dywedai Gwen, lliw'r ewyn
'Och fi, pa beth yw'r deryn
Sydd yma'n tiwnio'n awr mor braf
A minau'n glaf ar derfyn?'
'Cenhadon ŷm, gwenwch goelio
Oddi wrth y mwyn a'ch caro
Gael iddo wybod ffordd yr ydych
Ai mendio'n wych ai peidio'
'O dywedwch wrtho'n dawel
Mai byr fydd hyd fy hoedl
Cyn diwedd hyn o haf, yn brudd
Â'n gymysg bridd a grafel'