Выберите трек для воспроизведения
Amgen; oes 'na ffordd o wneud hyn?
Wyt ti'n gwybod lle i ddechrau?
A'r holl nosweithiau fi 'di cyfri
A cheisio peidio digalonni
O'n i wir bron â derbyn
Byddai pethau byth 'run peth
Ond weithiau mae fe'n aros i ti
'Na lle nes i sylweddoli
Aros amdanat ti
Beth wyt ti'n gwneud wythnos i fory?
Dros baned holais fy ffrind Mali
Mae'n rhyfedd sut mae blwyddyn arall
Yn troi yn ddau neu dri mewn eiliad
Mil o resymau i boeni am bob dim
Ond weithiau mae fe'n aros i ti
'Na lle nes i sylweddoli
Aros amdanat ti