Оберіть трек для відтворення
Eistedd yn y traffig
Y weipars yma'n ffyrnig
Allai'm gweld ymlaen
Tô'r car yn tarannu
Diferion ddaw i gasglu
A rhedeg lawr y ffenest flaen
A oes haul i ddod i godi'r tywyllwch mawr?
A daw gwynt i hel y cymylau o'ma nawr?
A daw rhywbeth i gael gwared o'r glaw?
A setlo'r dydd tymhestlog yma'n awr
Chwarae gyda'r wireless
Dim signal yma'n hopeless
Digalon yma'n wir
Y diod yma'n mynd yn fflat
Dyheu na fysa yna grât
Ond disgwyl fydd rhaid i mi
A oes haul i ddod i godi'r tywyllwch mawr?
A daw gwynt i hel y cymylau o'ma nawr?
A daw rhywbeth i gael gwared o'r glaw?
A setlo'r dydd tymhestlog yma'n awr
A oes haul i ddod i godi'r tywyllwch mawr?
A daw gwynt i hel y cymylau o'ma nawr?
Oes haul i ddod i godi'r tywyllwch mawr?
A daw gwynt i hel y cymylau o'ma nawr?
A daw rhywbeth i gael gwared o'r glaw?
A setlo'r dydd tymhestlog yma'n awr