Оберіть трек для відтворення
Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd
Tros ryddid collasant eu gwaed
Gwlad! Gwlad!
Pleidiol wyf i'm gwlad
Tra môr yn fur
I'r bur hoff bau
O bydded i'r hen iaith barhau
Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd
Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd, i mi
Gwlad! Gwlad!
Pleidiol wyf i'm gwlad
Tra môr yn fur
I'r bur hoff bau
O bydded i'r hen iaith barhau