Оберіть трек для відтворення
Mae gen i gwestiwn i ti
Nid cwestiwn anodd yw hi
Elli di ateb hi i mi?
Dwi'n gofyn am siawns
Dwi ond yn gofyn am siawns
Elli di rannu dawns gyda mi?
Mae'r noson yn diflannu
A mae'r sgwrs yn byrlymu
Ga i fod mor hŷ i ofyn am siawns?
Os ddaw rhywbeth mwy, rho im siawns
I fod hefo ti
I fod hefo ti
Tra aiff y noson yn gyflym â'n gilydd
Wna i'm anghofio hyn am un munud
Tra dwi hefo ti
Hefo ti
Mae gen i gwestiwn i mi
Ai ti yw'r un i mi?
Ond yn bwysicach fyth ai fi yw'r un i ti?
A mae'r noson yn diflannu
A mae'r sgwrs yn byrlymu
Ga i fod mor hŷ i ofyn am siawns?
Os daw rhywbeth mwy, rho im siawns
I fod hefo ti
I fod hefo ti
Tra aiff y noson yn gyflym â'n gilydd
Wna i'm anghofio hyn am un munud
Tra dwi hefo ti
Hefo ti
A mae'r noson yn diflannu
A mae'r sgwrs yn byrlymu
Ga i fod mor hŷ i ofyn am siawns?
Os daw rhywbeth mwy, rho im siawns
I fod hefo ti
I fod hefo ti
Tra aiff y noson yn gyflym â'n gilydd
Wna i'm anghofio hyn am un munud
Tra dwi hefo ti
Hefo ti