Оберіть трек для відтворення
Gan edrych 'nôl - ffŵl oeddwn innau
Allai'm camu 'nôl - atgofion dal yn binnau
Camgymeriadau fu - gobeithio dysgu ohonynt
Achosi poendod gwir - allai'm dileu'n anffodus
A dim ond chdi all gerdded yn ôl ata i
A dim ond chdi all leddfu poen fy 'nghalon i
Tyrd yn ôl i 'mreichiau
Hiraethu am y dyddiau
Dim ond chdi all gynnig dyddiau gwell
Wrthi'n meddwl yn awr - meddwl 'mod i'n glyfar
Trio bod rêl boi - aeth pethau i'r gwrthwyneb
Dim ond dyfaru dweud - wrth feddwl ar y pryd
Os elli di ddod 'nôl - mi allai ddweud yn glir
Na dim ond chdi all gerdded yn ôl ata i
A dim ond chdi all leddfu poen fy nghalon i
Tyrd yn ôl i 'mreichiau
Hiraethu am y dyddiau
Dim ond chdi all gynnig dyddiau gwell
A dim ond chdi all gerdded yn ôl ata i
A dim ond chdi all leddfu poen fy nghalon i
Tyrd yn ôl i 'mreichiau
Hiraethu am y dyddiau
Dim ond chdi all gynnig dyddiau gwell