Оберіть трек для відтворення
Paid â bod yn neb ond chdi
Gorfod deud hyn bob un dydd
Yn y drych - DYMA FI
Ac weithiau dwi'n clywed y lleisiau
Sy'n deud bo fi'm digon da
Heb ddim uchelgais
A bo' fi ddim efo llais
Ond dwi'n cofio i weiddi
Na, dwi ddim fel chdi
A mae hynna'n iawn
Wneith bod r'un peth
Ddim 'neud fi deimlo'n gyflawn
Sori?
Na dwi ddim yn sori
Mynd yn erbyn yr hen stori
Mae'n hawdd cael fy ngadael ar ôl
Ond wnâi'm newid i ffitio'r mowld
Mewn amser wnei di weld yn glir
Dwi'n gwybod bod 'na le i fi
Y chwerthin tu ôl i'n nghefn
Dwi'n barod i newid y drefn
Paid â bod yn neb ond chdi
Gorfod deud hyn bob un dydd
Yn y drych - DYMA FI
Weithiau dwi'm yn ddigon cryf
Pwysau anodd
Styc yn y canol
Wnâi'm dilyn chdi
Well gennai fod yn fi
Sori?
Na dwi ddim yn sori
Mynd yn erbyn yr hen stori
Mae'n hawdd cael fy ngadael ar ôl
Ond wnâi'm newid i ffitio'r mowld
Mewn amser wnei di weld yn glir
Dwi'n gwybod bod 'na le i fi
Y chwerthin tu ôl i'n nghefn
Dwi'n barod i newid y drefn
Sori?
Na dwi ddim yn sori
Sori?
Na dwi ddim yn sori
Sori?
Na dwi ddim yn sori
Ond wnâi'm newid i ffitio'r mowld
Sori?
Na dwi ddim yn sori
Sori?
Na dwi ddim yn sori
Sori?
Na dwi ddim yn sori
Dwi'n barod i newid y drefn
Na, dwi ddim fel chdi
A mae hynna'n iawn
Wneith bod r'un peth
Ddim 'neud fi deimlo'n gyflawn
Sori?
Na dwi ddim yn sori
Pam fyswn i'n sori?
Mae'n hawdd cael fy ngadael ar ôl
Ond wnâi'm newid i ffitio'r mowld
Mewn amser wnei di weld yn glir
Dwi'n gwybod bod 'na le i fi
Y chwerthin tu ôl i'n nghefn
Dwi'n barod i newid y drefn
Sori?
Na dwi ddim yn sori
Sori?
Na dwi ddim yn sori
Sori?
Na dwi ddim yn sori
Ond wnâi'm newid i ffitio'r mowld
Sori?
Na dwi ddim yn sori
Sori?
Na dwi ddim yn sori
Sori?
Na dwi ddim yn sori
Dwi'n barod i newid y drefn