Оберіть трек для відтворення
Cau'r ffenestri mae'n wlyb tu fas
Dweud i mi'r gwir nawr heb fod yn gas
A phaid ag ofni nid y tro cyntaf yw hyn i ni gwympo mas
A sai'n pryderu ni wedi trio'n gorau glas
'Sdim wastad ffordd i drwsio rhywbeth sydd allan o'n dwylo
Ond roedd rhaid i ni frwydro
A brifo eto
Aur a heulwen oedd cwrdd â thi
A sai erioed wedi profi 'ny
Ond be sy'n bwysig ydy edrych nôl a gwenu arni hi
A chwerthin ar atgofion twp di-ri
'Sdim wastad ffordd i drwsio rhywbeth sydd allan o'n dwylo
Ond roedd rhaid i ni frwydro
A brifo eto
Ni'n ddigon call i symud mlaen
A chloi'r drws i'r gorffennol
Defnyddio'n traed a sefyll lan (sefyll lan)
A bod yn annibynnol
Byth eto ail gynnau y tân
Na, paid hyd yn oed mentro (Na, paid hyd yn oed mentro)
Byth eto, Byth eto
Fydd dim esgusodion
'Drycha ar y llanast
O ni'n gwybod ni fyddai'n para
Beth sy'n bod 'da hwnna
Cau'r ffenestri mae'n wlyb tu fas
Pan mae 'di sychu ef i nôl mas